Skip to main content

This website uses cookies to make the website simpler.

Find out more about our privacy policy. Ok
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Gloywi Iaith

Gloywi (Proficiency)
Virtual classroom
Virtual classroom
Course reference: MYN-g-54914
Duration: 36 Weeks
Start date: 07/09/2026
End date: 05/07/2027
Time & Day: 18:30 - 21:00 Monday
Dialect: South
Learning stream: Mainstream
Provider: Dysgu Cymraeg Gwent
£100.00
Remaining spaces: 6
Enrolment closing date: 16/03/2027

About this course

Cwrs Gloywi 

Mae'r Cwrs Gloywi yn addas gyfer y rheiny sy'n siarad Cymraeg yn eithaf rhugl (fel mamiaith neu ail iaith) ond sy am wella eu gallu yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. 

Mae’n bosibl iawn bod dysgwyr ar gwrs Gloywi heb gwblhau arholiad Uwch yn llwyddiannus eto. Os felly, gobeithir y byddant yn ei sefyll ar ddiwedd y flwyddyn. 

Bydd y cwrs hwn yn addas i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr profiadol fel eu bod yn gallu gloywi eu sgiliau ysgrifennu Cymraeg yn ogystal â meithrin eu sgiliau llafar wrth siarad Cymraeg dan bob amgylchiad mewn amrywiol sefyllfaoedd. 

Er nad oes cwrslyfr cenedlaethol fel y cyfryw, bydd y cwrs hwn yn ymwneud â nifer o eitemau amrywiol er mwyn sicrhau bod pawb yn y dosbarth yn elwa ac yn defnyddio’r gweithgareddau i adolygu yn ogystal â llenwi bylchau yn eu gwybodaeth 

Bydd y cwrs yn cynnwys y canlynol: 

  • Siarad a thrafod pynciau pob dydd a newyddion cyfoes – Cymru a’r byd 
  • Gwrando ar ganeuon - hen a modern 
  • Edrych ar erthyglau o gylchgronau megis, Golwg, Barn, Y Wawr, Y Cymro, Cymru Fyw  
  • Gwrando ar ddarnau newyddion/rhaglenni 
  • Edrych ar wallau cyffredin a’u dadansoddi er mwyn gwella 
  • Cyfieithu  
  • Gwrando ar gyfres o siaradwyr gwadd. 
  • Ond yn anad dim rhoddir pwyslais mawr ar feithrin yr hyder i siarad mor rhugl ag sy’n bosibl. 

Bydd y cwrs yn defnyddio adnoddau/gweithgareddau gramadegol, newyddiadurol a llenyddol o nifer o ffynonellau gwahanol er mwyn cynorthwyo aelodau’r dosbarth i wella’u Cymraeg a sicrhau eu bod yn gallu cyflwyno safbwynt a mynegi barn.

Yn ogystal â gwella cywirdeb y dysgwyr trwy ymarferion iaith, gwneir ymdrech i godi ymwybyddiaeth o hanes a diwylliant Cymru gan ddefnyddio unwaith eto ystod eang iawn o ffynonellau er mwyn sicrhau gwell ddealltwriaeth o’r Gymru gyfoes, ei hanes a’i llên. 

DISCOUNT CODES

Use the discount codes below to receive a reduction in your fees

  • Current Learners (50%) - CYW26
  • For New Learners (50%) - WELSH26
  • For the Education Workforce (i.e. all staff that work within education) (100%) - ADDYSG
  • All learners between the ages of 16-25 will automatically receive a 100% discount


You must enter the code above on the payment page to receive the discount.

If you would like to pay in installments or to discuss the fees, please contact welsh@coleggwent.ac.uk 

For more information on fees, discounts and books go to www.dysgucymraeg.cymru/gwent 

Class full? Click here to complete a Waiting List form: https://forms.cloud.microsoft/e/gKVtDA0U95